Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 16 Hydref 2014 i'w hateb ar 21 Hydref 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y ddarpariaeth o ofal iechyd brys yng nghanolbarth Cymru? OAQ(4)1909(FM)

 

2. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cynhwysiant digidol yng Nghymru?OAQ(4)1908(FM)

3. Elin Jones (Ceredigion): Pa fesurau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i amddiffyn y diwydiant amaethyddol yn wyneb y cwymp diweddar mewn incwm nifer o ffermwyr? OAQ(4)1910(FM)W

4. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i amddiffyn pobl ifanc rhag cael eu cam-drin yn rhywiol ar-lein? OAQ(4)1914(FM)

5. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu asesiad o'r potensial ar gyfer cydweithredu economaidd rhwng Cymru a de-orllewin Lloegr? OAQ(4)1915(FM)

6. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar oblygiadau refferendwm yr Alban i Gymru? OAQ(4)1905(FM)

7. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru ar absenoldeb o'r ysgol? OAQ(4)1906(FM)

8. Sandy Mewies (Delyn): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau faint o alcohol a gaiff ei yfed yng Nghymru? OAQ(4)1917(FM)

9. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau a gafodd y Prif Weinidog ynghylch camau i ddiogelu'r iaith Gymraeg yn y Bil Cynllunio? OAQ(4)1912(FM)W

10. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y setliad cyllidebol i gynghorau Cymru? OAQ(4)1911(FM)

11. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y trafodaethau y mae wedi'u cael ynghylch dyfodol y diwydiant dur yn ne Cymru? OAQ(4)1913(FM)

12. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu pobl y mae tlodi mewn gwaith yn effeithio arnynt yng Nghwm Cynon?OAQ(4)1916(FM)

13. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i baratoi ar gyfer achosion posibl o Ebola? OAQ(4)1904(FM)

14. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar strategaeth ynni Cymru at y dyfodol? OAQ(4)1918(FM)

15. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar barcio mewn ysbytai? OAQ(4)1907(FM)